Routes2Ride
Llwybr Tri Pharc
Gan ddechrau o Barc Gwledig Sirhywi ger Crosskeys mae’r daith yn parhau am 6 milltir, gan groesi traphont 16 bwa wych Hengoed.
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 13 milltir
Rhondda Fach / Seidins y Barri - Pontypridd i'r Porth
Mae’r llwybr di-draffig hyfryd hwn o Bontypridd yn teithio drwy Barc Gwledig Seidins y Barri, heibio i Barc Treftadaeth y Rhondda ac ymlaen i’r Porth.
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 3.5 milltir
Llwybr Bae Caerdydd
Mae’r llwybr cylchol di-draffig yn rhedeg o amgylch Bae Caerdydd ac i dref glan môr Penarth dros Bont y Werin. Mae’n daith berffaith ar gyfer teuluoedd a rhai sy’n ail-gydio mewn beicio a rhydd gyfle gwych i archwilio caffis, bariau a bwytai glan dŵr bywiog Bae Caerdydd; safleoedd treftadaeth ac amrywiaeth wych o weithgareddau sydd ar gael ym Mhentref Chwaraeon Cenedlaethol newydd Bae Caerdydd.
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 8 milltir
Llwybr Cymunedol Pentre’r Eglwys Llantrisant i Tonteg
O dafarn y Cross Inn yn Llantrisant, mae’r llwybr llawn golygfeydd hwn yn mynd i’r gogledd o Ffordd Osgoi Pentre’r Eglwys i gyrion Tonteg, gan roi cyfle gwych i ymwelwyr a chymudwyr fwynhau tirwedd gyfoethog y Cymoedd a’r amgylchedd gwledig.
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 4 milltir
Taith Cynon
Taith Cynon yw un o'r llwybrau beicio diweddaraf i gael ei agor yn y cymoedd. Gan ei fod yn rhedeg ar hyd coridor naturiol Afon Cynon, mae'n rhoi cyfle gwych i feicio yn y rhan godidog hwn o Dde Cymru.
Dosbarthiad: Pellter: 11 milltir
Cwm Aman
Dechrau llwybr gwych yn cysylltu Rhydaman â Chwm Aman uchaf, mae'r llwybr byr sy'n bodoli ar hyn o bryd yn ddihangfa glan afon hardd sy'n eich arwain drwy goedwigoedd a pharciau.
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 2.5 milltir
Cwm Tawe: Clydach i Arsyllfa Abertawe
Gan ddilyn cymysgedd o lwybrau glan afon, adrannau newydd a adeialdwyd i'r diben a hen linellau rheilffordd, mae'r llwybr hwn yn darparu llain werdd drwy galon ddiwydiannol Cwm Tawe. O'r daith mae'n bosibl gweld rhai o nodweddion gorffennol diwydiannol y cwm tra ar yr un pryd mae'r daith yn dangos y presennol sydd wedi ei adfywio.
Dosbarthiad: Pellter: 8.5 milltir
Cwm Tawe: Clydach i Ystalyfera
Taith ysgafn iawn yw hon ar hyd llwybr tynnu camlas a hen reilffordd, yn dilyn llawr y dyffryn rhwng dwy o brif drefi Cwm Tawe. Gan ddechrau o Barc Coed Gwilym mae'r llwybr yn cydio yn y llwybr tynnu camlas ac yn mynd a chi i ganol Pontardawe. Gan symud i ffwrdd o'r gamlas a dilyn glan yr afon fe ddewch i'r hen lein rheilffordd. Bydd hyn yn mynd â chi drwy goedwigoedd sy’n rhedeg gyda’r afon cyn dod allan ar gyrion Ystalyfera.
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 6.5 milltir
Merthyr Tudful i Aberhonddu
Mae'r daith hon ar gyfer y rheiny sy'n hoffi mynd i galon parc cenedlaethol, ond mae'n cychwyn yn nhref lofaol enwocaf De Cymru, ac yn diweddu yn nhref brydferth wledig Aberhonddu.
Dosbarthiad: Pellter: 25 milltir
Llanfair-ym-Muallt i Glas-ar-Wy drwy Orsaf Erwood
Gan redeg i lawr Dyffryn Gwy, mae'r daith yn dilyn lonydd cefn, gydag adrannau di-draffig byr yn Llanfair-ym-Muallt. Mae hen orsaf reilffordd Erwood, sydd erbyn hyn yn gaffi ac amgueddfa, tua hanner ffordd ar hyd yr adran, ac mae'n fan gorffwys delfrydol i gael ychydig o luniaeth, ac yn fan troi da ar gyfer y rheiny sydd eisiau taith fyrrach.
Dosbarthiad: Pellter: 15 milltir

