Dyffryn Aman
Gan nadreddu ar hyd glannau Afon Aman mae gan y llwybr hwn olygfeydd cerdyn post o ben gorllewinol Cadwyn Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd y Betws. Gan redeg yn gyfochrog â’r A470 bydd y llwybr di-draffig hwn yn mynd â chi drwy goedwig dderi a pharcdir hynafol. Yn rhydd o bwysau bywyd bob dydd, mae’r llwybr hwn ar gyfer y rheiny sydd am fynd ar daith hamddenol . Mae hefyd yn rhoi cyfle i aros a siopa mewn trefi ar y ffordd.
Dechreuwch yn Y Garnant - a oedd unwaith yn gartref i weithiau tunplat a nifer o byllau glo caled. Mae golygfeydd godidog o Fynyddoedd y Betws i’w cael yma, lle gellir gweld rhes o gerrig Neolithig newydd eu darganfod, ar y gorwel.
Mae’r llwybr yn ymuno ag Afon Aman sydd â’i tharddiad yn y Mynydd Du ac yn gwyro i Warchodfa Natur Ynys Dawela 39 erw. Roedd y tir hwn unwaith yn fferm weithiol gyda golygfeydd clir o’r mynyddoedd garw a gellir darganfod planhigion prin megis Ysgall y Ddôl a’r Carwe Troellog. Bydd dolydd y Warchodfa yn fôr o liwiau yn niwedd yr haf.
O’r Garnant ewch i gyfeiriad tref gyfagos Glanaman, sy’n enwog am ei llaeth. Mae ffermydd llaeth yr ardal wedi arallgyfeirio i ddiwallu costau cynyddol cynhyrchu llaeth ond ceidw’r dref draddodiad amaethyddol cryf. Glanaman hefyd yw’r dref lle magwyd sgoriwr ceisiadau rygbi uchaf Cymru, Shane Williams. Cadwch lygad am yr adar ysglyfaethus - yn cynnwys Barcutiaid Coch, Bwncathod a Chudyllod Coch - yn hofran yn yr awyr fry.
Atyniadau naturiol:
- Afon Aman
- Mynyddoedd y Betws
- Mynyddoedd Du
Atyniadau i ymwelwyr:
- Gwarchodfa Natur Ynys Dawela: Dyffryn Aman Uchaf
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Amman Valley in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
De Orllewin Cymru
- Pellter:
2.5 milltir
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Llwch
- Cychwyn:
Garnant
- Gorffen:
Glanaman
- Tywydd:
-
Sul
uchaf: 16°C isaf: 9°C
-
Llun
uchaf: 19°C isaf: 9°C
-
Mawrth
uchaf: 20°C isaf: 10°C
-
Mercher
uchaf: 17°C isaf: 11°C
Dewis llwybr arall

