Nôl

Llwybr Cymunedol Pentre’r Eglwys Llantrisant i Trefforest

image

Llwybr Cymunedol Pentre’r Eglwys oedd un o’r llwybrau di-draffig cyntaf i’w gwblhau fel rhan o ‘Rwydwaith Beicio’r Cymoedd’, estyniad o ragor na 100 milltir o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar draws hen faes glo De Cymru.

O dafarn y Cross Inn yn Llantrisant, mae’r llwybr hwn yn rhedeg i’r gogledd o ffordd osgoi Pentre’r Eglwys i gymuned Ton-teg ac ymlaen i Drefforest, gan roi cyfle gwych i ymwelwyr a chymudwyr fwynhau tirwedd cyfoethog y Cymoedd.

Ceir paneli gwybodaeth i ddweud wrthych am y doreth o fywyd gwyllt y gellir ei weld yn byw ar hyd y llwybr. Arhoswch am ychydig i weld a allwch gael cip ar Löyn Brith y Gors prin sy’n hoff o ymgartrefu yn y gwrychoedd. Mwynhewch bicnic ar fainc eco neu ar Fainc Portreadau wych Trefforest - sy’n cynnwys canwr lleol enwog, wedi ei anfarwoli mewn dur hindreuliedig yn sefyll yn falch ar y ‘green, green grass of home’. Ar y llwybr gallwch hefyd weld gwyntyll 6 troedfedd o uchder o Oes Fictoria wedi ei orchuddio â delweddau ffyrdd o deithio y dyfodol a ddyluniwyd gan blant ysgol gynradd leol.

Bydd rhan newydd sbon o’r llwybr cymudo hwylus hwn yn agor ym mis Mehefin 2012 fel rhan o ddathliadau Wythnos Beicio Rhondda Cynon Taf. Gan ddechrau yn Nhon-teg, bydd yn parhau’r llwybr di-draffig gwych hwn yr holl ffordd i orsaf drenau Trefforest ac adeiladau campws Prifysgol Morgannwg.


Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Sylwadau (0)

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

Cymoedd De Cymru

Pellter:

6 milltir

Dosbarthiad:

Hawdd

Traffig:

Di-draffig

Wyneb:

Tarmac

Cychwyn:

Llantrisant

Gorffen:

Trefforest

Mynediad:

Gorsafoedd Rheilfford Pontclun a Trefforest

Tywydd:
Partly Sunny

Sul

uchaf: 18°C isaf: 9°C

Partly Sunny

Llun

uchaf: 20°C isaf: 7°C

Partly Sunny

Mawrth

uchaf: 21°C isaf: 9°C

Mostly Sunny

Mercher

uchaf: 22°C isaf: 11°C


Dewis llwybr arall
Sustrans