Llwybr Cynon
Gan ddechau yn Abercynon a gorffen yn Hirwaun, mae’r llwybr hwn yn nadreddu ei ffordd i gyfeiriad y gogledd orllewin ar hyd adrannau o hen Gamlas Sir Forgannwg.
Yn rhyfeddol, roedd 16 o 52 loc y gamlas ar adran milltir o hyd ar afon Cynon yn yr hen dref lofaol hon a godwyd o amgylch ‘Navigation House’- sydd erbyn hyn yn dafarn - ond a oedd unwaith yn bencadlys y gamlas. Mae’n anodd credu yr arferai’r hafan glan y dŵr heddychlon hwn, lle mae’r Glas y Dorlan yn pysgota a’r Gog yn nythu, fod yn flaenllaw yn y Chwyldro Diwydiannol ac yn faes brwydr ar gyfer sawl dadl gyfreithiol rhwng perchnogion y gamlas a’r pyllau glo - perchnogion y pyllau am adeiladu pontydd rheilffordd er mwyn disodli’r badau fel ffordd gyflymach o gludo glo, ac yn y diwedd yn ennill y frwydr yn y llys ym 1851.
Teithiwch ymlaen i Gaegarw ac Aberpennar lle ceir cofeb i’r arwr o redwr lleol, Guto Nyth Bran - mab fferm a anwyd ym 1700. Bob Nos Galan bydd y dref yn cynnal rasys er cof amdano.
Dilynwch y llwybr i Gwmbach, a enwogwyd am ei gôr meibion, ac ymlaen i hen dref lofaol Aberdâr - porth i 500 erw o gefn gwlad godidog a Pharc Gwledig Cwm Dâr. Ceir yma weithgareddau ar y llyn a chanolfan ymwelwyr ryngweithiol. Mae hwn yn fan delfrydol ar gyfer picnic, ac yma hefyd ceir Caffi Cwtch.
Mae’r llwybr wedi ei gysylltu i Barc Afon Cynon lle mae labrinth o lwybrau beicio yn cael eu datblygu. Mae pen Abercynon hefyd yn cysylltu â Thaith Taf.
Atyniadau naturiol:
- Afon Cynon
Atyniadau i ymwelwyr:
- Parc Gwledig Cwm Dâr
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Cynon Trail in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Cymoedd De Cymru
- Pellter:
11 milltir
- Dosbarthiad:
- Traffig:
Di-draffig yn bennaf, rhai ffyrdd
- Wyneb:
Cymysg
- Llwybr RhBC:
478
- Cychwyn:
Abercynon
- Gorffen:
Hirwaun
- Mynediad:
Gorsaf reilffordd yn Aberdâr
- Tywydd:
-
Sul
uchaf: 18°C isaf: 9°C
-
Llun
uchaf: 20°C isaf: 7°C
-
Mawrth
uchaf: 21°C isaf: 9°C
-
Mercher
uchaf: 22°C isaf: 11°C
Dewis llwybr arall

