Abergwaun i Dyddewi

Mae dwy ran bendant i’r daith sy’n ymuno yn Nhre-fin. Mae’r adran gyntaf o Abergwaun i Dre-fin yn eithaf bryniog, ac mae ar rai priffyrdd am bellteroedd byr i gychwyn. Fodd bynnag, wrth i chi adael Abergwaun mae pethau’n dechrau tawelu, gyda lonydd gwledig tawel ac adran ddi-draffig fer.
Mae pethau’n dechrau datblygu fodd bynnag wrth i chi ddynesu at a mynd heibio Tre-fin. Gan deithio yn bennaf ar grib ychydig i mewn o’r arfordir, mae’r daith yn llai bryniog (er gallwch ddisgwyl ychydig o ddringfeydd) ac mae’r golygfeydd ar hyd Arfordir Sir Benfro yn drawiadol. Os nad oes gwahaniaeth gennych gael dringfa serth yn ôl i’r llwybr, mae’n bosibl mynd i lawr i gildraethau bychain a’r clogwyni.
Ar yr ochr arall gallwch fwynhau’r olygfa a geir gan Fynyddoedd y Preseli a’r dirwedd arw a grëwyd gan lawer o garneddau claddu.
Oherwydd poblogrwydd Tyddewi, gall hyd yn oed yr isffyrdd fod yn brysur wrth i chi ddynesu at y ddinas fechan unigryw hon a’i Chadeirlan enwog, ond peidiwch â gadael i’r traffig eich atal rhag mynd gan fod yr olygfa yn wych ac mae lleoliad Tyddewi yn hollol fendigedig.
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Fishguard to St Davids in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
De Orllewin Cymru
- Pellter:
19 milltir
- Dosbarthiad:
- Traffig:
Ffyrdd Cefn
- Wyneb:
Tarmac
- Llwybr RhBC:
4
- Cychwyn:
Abergwaun
- Gorffen:
Tyddewi
- Mynediad:
Gorsaf reilffordd Abergwaun
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Geltaidd Gorllewin NN4C £6.99
Arweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99
Taflen Lôn Geltaidd – Pdf am ddim
- Tywydd:
-
Sul
uchaf: 16°C isaf: 9°C
-
Llun
uchaf: 17°C isaf: 7°C
-
Mawrth
uchaf: 18°C isaf: 9°C
-
Mercher
uchaf: 17°C isaf: 12°C
Dewis llwybr arall

