Dewis y llwybr iawn i chi
Gyda chymaint o wahanol alluoedd beicio, mathau o lwybrau a steiliau o feiciau, weithiau fe all fod yn anodd penderfynu ar y llwybr iawn i chi. Dylai’r adran hon eich helpu i ddeall am beth i chwilio wrth ddewis llwybr o wefan routes2ride. Rydym hefyd yn eich annog i rannu eich profiadau gydag eraill sydd eisoes wedi beicio’r llwybr ac wedi gadael eu sylwadau a'u hadborth.
Beth yw ystyr y dosbarthiadau ar y disgrifiadau llwybr?
I'ch helpu i ddewis y llwybr iawn i chi rydym wedi dosbarthu'r teithiau sydd wedi eu cynnwys ar y wefan hon yn y categorïau canlynol:
- Addas i deuluoedd - di-draffig a fawr ddim llethrau
- Hawdd – di-draffig yn bennaf a dim llethrau serth
- Cymedrol – di-draffig ac ar y ffordd gydag ychydig o lethrau, gallant hefyd fod yn ganolig i hir o ran pellter
- Heriol - di-draffig ac ar y ffordd, llethrau serth a phellter hir
Os ydych yn dal yn ansicr ynglŷn ag os yw llwybr yn addas i chi ac yr hoffech gyngor, ffoniwch Sustrans ar: 0845 113 00 65 yn ystod oriau swyddfa.
Beth mae'r wybodaeth arwyneb yn ei olygu ar y disgrifiadau llwybr?
Rhoddir gwybodaeth am arwyneb er mwyn eich helpu i benderfynu pa fath o feic i'w ddefnyddio. Tra bod y rhan fwyaf o lwybrau yn addas ar gyfer beiciau hybrid, dylid defnyddio beiciau mynydd ar lwybrau sydd â llawer o raean neu adrannau garw eraill, lle nodir hynny.
Sut ydym ni wedi gweithio allan faint o amser a gymer llwybr?
Rydym wedi rhoi syniad o'r amser a gymer i reidio pob llwybr ar sail y graddfeydd isod. Mae'r wybodaeth hon i'ch cynorthwyo gyda'ch dewis o lwybr ond fe'i bwriedir fel canllaw yn unig ac mae angen ei ystyried yng nghyd-destun profiad y beiciwr.
- Isafswm cyflymder o 8 milltir yr awr
- Uchafswm cyflymder o 15 milltir yr awr

