Nôl

Rhondda Fach / Seidins y Barri - Pontypridd i'r Porth

image

Mae’r llwybr di-draffig hyfryd hwn o Bontypridd yn teithio drwy Barc Gwledig Seidins y Barri, heibio i Barc Treftadaeth y Rhondda ac ymlaen i’r Porth. 

I gael mynediad i’r llwybr o orsaf drenau Pontypridd, ewch i’r chwith o’r orsaf, heibio i Stardust Bingo ac i lawr i’r gylchfan. Dilynwch arwyddion Llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 4 i’r chwith o’r gylchfan. 

Wrth i’r llwybrau gyfarfod, trowch i’r dde ar Lwybr 881 a fydd yn mynd â chi i Seidins y Barri, parc gwledig hardd sydd wedi ei leoli yn Nhrehafod. Mae gan y parc ddau lyn pysgota bach a digonedd o fannau i gael barbeciw neu bicnic. Gall teuluoedd hefyd fanteisio ar yr ardal chwarae plant a chael lluniaeth yn y caffi sydd wedi ei leoli yn y ganolfan ymwelwyr.

Gan barhau ar hyd y llwybr, mae’n werth ymweld â hen beiriannau’r pwll glo yn Nhrehafod ym Mharc Treftadaeth y Rhondda.  Mae’r ganolfan yn ail-gread dan do o Stryd Pentref y cyfnod sy’n dangos bywyd domestig a masnachol y cymoedd. Ceir yno hefyd oriel gelf gyda rhaglen o arddangosfeydd sy’n newid yn gyson ac yn arddangos gwaith artistiaid lleol a chenedlaethol, caffi a’r Black Gold Tour enwog, dan arweiniad glowyr go iawn.  Parhewch ar eich antur ddi-draffig i’r Porth, cartref y Meddyg Beiciau, pe byddech angen un, lle gallwch neidio ar drên yn ôl i Bontypridd / Caerdydd.

Ar gyfer beicwyr profiadol, ceir dewis i barhau i fyny’r Cwm ar hyd Rhondda Fach tuag at Faerdy lle mae’r llwybr yn cyfarfod Llwybr 47, sy’n mynd yn ôl i lawr i Ynysybwl a Phontypridd ar draciau coedwig. Mae hon yn daith fryniog arw felly argymhellir beic mynydd.

Gallwch hefyd ddechrau eich siwrnai ddi-draffig yng ngorsaf drenau Porth a mynd i’r cyfeiriad gwahanol ar hyd Rhondda Fach tuag at Bontypridd lle gallwch barhau ar eich antur ddi-draffig ar hyd Taith Taf fendigedig.

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Sylwadau (1)

  • 10/06/11,  at  09:05 AM

    I’ve just cycled the NCN 881 from Pontypridd to Mardy Reservoir (Where the NCN 47) meets.
    The route was well signed and extremely interesting. The path was a bit rough between Ferndale and Mardy but that was because we had the wrong bikes. The views were fantastic the river clean and interesting and not a dead shopping trolley or burnt out car in sight.
    Well done to Sustrans for giving us another interesting ride.There were also 2 great coffee stops in Mardy & Ferdale.

  • Page 1 of 1 pages

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

Cymoedd De Cymru

Pellter:

3.5 milltir

Dosbarthiad:

Hawdd

Traffig:

Di-Draffig

Wyneb:

Tarmac

Llwybr RhBC:

881

Cychwyn:

Pontypridd

Gorffen:

Porth


Dewis llwybr arall
Sustrans