Cwm Tawe: Clydach i Arsyllfa Abertawe
Gan ddilyn cymysgedd o lwybrau glan afon, adrannau newydd a adeialdwyd i’r diben a hen linellau rheilffordd, mae’r llwybr hwn yn darparu llain werdd drwy galon ddiwydiannol Cwm Tawe. O’r daith mae’n bosibl gweld rhai o nodweddion gorffennol diwydiannol y cwm tra ar yr un pryd mae’r daith yn dangos y presennol sydd wedi ei adfywio.
Cewch weld Stadiwm Liberty wrth i chi fynd heibio iddi ar yr un glan afon aeth â chi dim ond filltir neu ddwy yngynt heibio i hen warws friciau o ddechrau’r ugeinfed ganrif. Byddwch yn mynd dan ddwy draphont rheilffordd anferth yn dyddio o’r 1800au a chroesi dros ffordd a phontydd cerddwyr newydd a godwyd yn ystod y degawd diwethaf.
Mae’r daith yn diweddu drwy ddolennu o amgylch ardal y marina a ail-ddatblygwyd cyn cyrraedd promenâd Abertawe tu allan i’r arsyllfa.
Gallwch ymestyn y daith i’r Mwmbwls, neu i Bontardawe neu Ystalyfera i’r cyfeiriad arall. Gweler teithiau Clydach i Ystalyfera, Port Talbot i Gydweli a Port Talbot i Gastell-nedd i ganfod ffyrdd eraill i ymestyn y daith.
Atyniadau naturiol:
- Bae Abertawe
Atyniadau i ymwelwyr:
- Arsyllfa Abertawe
- Canolfan Ddringo Dynamic
- Stadiwm Liberty
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Swansea Valley: Clydach to Swansea Observatory in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
De Orllewin Cymru
- Pellter:
8.5 milltir
- Dosbarthiad:
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Cymysg
- Cychwyn:
Clydach
- Gorffen:
Arsyllfa Abertawe
- Mynediad:
Gorsafoedd rheilffordd Llansamlet neu Abertawe
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Geltaidd Dwyrain NN4B £6.99
Arweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99
Taflen Lôn Geltaidd – Pdf am ddim
- Tywydd:
-
Sul
uchaf: 16°C isaf: 9°C
-
Llun
uchaf: 19°C isaf: 9°C
-
Mawrth
uchaf: 20°C isaf: 10°C
-
Mercher
uchaf: 17°C isaf: 11°C
Dewis llwybr arall

