Telerau defnyddio
Mae'r ddogfen hon yn amlinellu cyfrifoldebau ac ymrwymiadau'r defnyddiwr (a elwir wedi hyn fel "Chi") a Routes2ride (a elwir wedi hyn fel "Ni"). Cyfeirir at ein cynigion gwasanaeth gyda'i gilydd fel y "Gwasanaeth" drwy'r ddogfen hon.
Dynodir eich bod yn derbyn y telerau hyn drwy eich bod yn defnyddio’r Gwasanaeth ac yn benodol, ond nid wedi ei gyfyngu i, wefan Routes2ride. Cadwn yr hawl i derfynu eich defnydd o'r Gwasanaeth os ydym o'r farn nad ydych wedi cadw at y telerau hyn mewn unrhyw fodd. Cadwn yr hawl hefyd i derfynu eich defnydd o’r Gwasanaeth ar unrhyw adeg, am unrhyw reswm, yn ôl ein disgresiwn ein hunain.
Gall y telerau hyn gael eu haddasu o bryd i'w gilydd heb rybudd penodol i Chi. Am y rheswm hwn dylech adolygu’r telerau hyn yn gyson pan fyddwch yn defnyddio'r Gwasanaeth.
Cynnwys a gyflwynir gan y defnyddiwr - postio
Mae llawer o'r cynnwys sydd ar gael ar y Gwasanaeth wedi ei gyflwyno gan ddefnyddwyr. Cedwir yr hawlfraint bob amser gan y defnyddwyr o ran y cynnwys y maent yn ei gyflwyno i'r Gwasanaeth.
Pan fyddwch yn postio cyflwyniadau ar y Gwasanaeth, byddwch yn cadw eich holl hawliau perchnogaeth yn eich Cyflwyniadau. Fodd bynnag, drwy gyflwyno'r cynnwys hwn i Routes2ride rydych yn rhoi i Ni drwydded fyd-eang, anghyfyngol, di-freindal, isdrwydeddadwy a throsglwyddiadau i ddefnyddio, atgynhyrchu, dosbarthu, paratoi gweithiau deilliadol ohono, arddangos, a pherfformio'r cynnwys mewn cysylltiad â Gwefan Routes2ride a busnesau cysylltiedig neu ddilynol, mewn unrhyw fformat cyfryngol, drwy unrhyw ddull.
Mae'r cynnwys sydd ar gael ar y Gwasanaeth ar gyfer defnydd personol, anfasnachol yn unig. Ni allwch dorri ein hawliau defnyddwyr drwy atgynhyrchu'r cynnwys hwn ar unrhyw ffurf heb ganiatâd ysgrifenedig penodol.
Cynnwys a gyflwynir gan ddefnyddiwr - ymddiriedaeth
Caiff cynnwys a gyflwynir gan aelodau Routes2ride ei gyhoeddi gan Sustrans mewn ymddiriedaeth ac ar y sail penodol nad yw ei gywirdeb a / na'i briodoldeb wedi ei wirio. O gofio hyn, nid ydym yn rhoi unrhyw warant o gwbl ynglŷn â'r llwybrau sydd wedi eu seilio ar gynnwys o'r fath a gyflwynir gan y defnyddiwr a bydd derbyn y telerau defnyddio hyn yn dynodi ildio'n llwyr unrhyw hawliad yn ein herbyn sy'n deillio o gynnwys o'r fath a gyflwynir gan ddefnyddiwr.
Defnydd cyfreithlon
Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r Gwasanaeth at ddibenion cyfreithlon yn unig. Rydych yn gwarantu bod gennych yr holl hawliau perthnasol ar gyfer unrhyw gynnwys y byddwch yn ei bostio ar y Gwasanaeth, ac y byddwch yn ymatal rhag postio unrhyw gynnwys nad oes gennych yr hawliau perthnasol iddo.
Ni chewch ddefnyddio'r Gwasanaeth ar gyfer unrhyw weithgaredd sy'n ymyrryd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â phreifatrwydd person arall.
Rydych yn cytuno i'n hindemnio Ni rhag unrhyw ddefnydd o'r Gwasanaeth yr ydych Chi yn ei wneud a allai arwain at atebolrwydd cyfreithiol gan unrhyw drydydd parti. Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gamau a gymerir gennych Chi yn eich defnydd o'r Gwasanaeth.
Polisi Preifatrwydd
Mae Routes2ride yn casglu amrywiaeth o wybodaeth gan ein defnyddwyr ar gyfer amrywiaeth o ddibenion. Mae’r wybodaeth isod yn amlinellu'r hyn yr ydym yn ei gasglu a sut y byddwn yn ei ddiogelu.
Gwybodaeth Bersonol
Pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaeth, byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost. Defnyddiwn y wybodaeth hon at ddibenion gweinyddol. Mae hyn yn cynnwys cysylltiad drwy e-bost, y gallwch eithrio ohono ar unrhyw adeg. Rydym hefyd yn defnyddio'r wybodaeth hon i wirio bod ein cwsmeriaid yn cadw at ein Telerau Gwasanaeth.
Rydym yn gwarantu na fyddwn yn datgelu'r wybodaeth hon i unrhyw drydydd parti ac eithrio fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan ac o fewn y gwasanaeth am nifer o resymau, yn cynnwys:
- Olrhain sesiynau logio i mewn defnyddwyr
- Olrhain atgyfeiriadau
- Sicrhau bod ein defnyddwyr yn cadw at y Telerau Gwasanaeth
- Olrhain gweithgareddau hysbysebu a marchnata
Ymwadiad
Darperir y Gwasanaeth "Fel y Mae" a gwadir unrhyw warantau penodol neu ymhlyg, yn cynnwys, ond nid wedi ei gyfyngu i, wasanaethau ymhlyg o farchnadwyedd ac addasrwydd ar gyfer diben penodol.
Mewn unrhyw amgylchiadau ni fyddwn yn atebol am unrhyw ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol, arbennig, cosbedigaethol, neu ganlyniadol (yn cynnwys, ond nid wedi ei gyfyngu i, gaffaeliad nwyddau neu wasanaethau amnewidiol; colli defnydd, data neu elw; neu amhariad ar fusnes) sut bynnag y'i hachosir ac ar unrhyw ddamcaniaeth o atebolrwydd, boed hynny mewn contract, atebolrwydd llym, neu gamwedd (yn cynnwys esgeulustod neu fel arall) sy'n codi mewn unrhyw fodd allan o ddefnydd o’r Gwasanaeth hwn, hyd yn oed os cynghorir o'r posibilrwydd o ddifrod o'r fath.

